Chris Hill achieves fifth British title / Pumed teitl Prydeinig i Chris Hil

Tuesday, August 23, 2016

South Wales tennis veteran Chris Hill gained his fifth British title, when he and playing partner Arun Vethakkan of Surrey secured the men’s over-55s doubles championship.

The British Seniors grass court championships are normally held at Wimbledon but this year switched to Surbiton because of the new roof development being carried out on court number one.

On their way to the final, the pair achieved notable wins over the England captain, GB captain and, in the final, two other members of the GB team.

Previously, Hill, from Abertillery, won the 2012 indoor and grass doubles titles with Tony King, the 2013 grass doubles with Tony King, and the 2014 indoor doubles with Nigel Mann, all in the O55 category.

“This is another great result for Chris,” said Peter Drew, chief executive of Tennis Wales. “He is an exceptional doubles player, and this should boost his world ranking significantly.

“Tennis is one of the few sports that can be played competitively at all ages. New fun and accessible ways to play mean it’s never too late to take up the game, and Chris is a real inspiration.”

 

-------------------------------------------------------

Cipiodd y chwaraewr tennis feteran, Chris Hill, ei bumed teitl Prydeinig pan enillodd ei bartner, Arun Vethakkan o Surrey, ac yntau bencampwriaeth y dyblau i ddynion dros 55 oed.

Cynhelir pencampwriaeth cwrt glaswellt Chwaraewyr Hŷn Prydain yn Wimbledon fel arfer, ond eleni fe’i symudwyd i Surbiton am fod y gwaith o osod to ar gwrt rhif un yn Wimbledon yn mynd rhagddo.

Ar eu ffordd i’r rownd derfynol, cafodd y pâr fuddugoliaethau nodedig dros gapten Lloegr, capten Prydain, ac, yn y rownd derfynol, dau aelod arall o dîm Prydain.

 Cyn hynny, enillodd Hill, o Abertyleri, deitl y dyblau dan do a’r dyblau cwrt glaswellt  gyda Tony King yn 2012, y dyblau cwrt glaswellt gyda Tony King yn 2013, a’r dyblau dan do yn 2014 gyda Nigel Mann, y cyfan yn y categori dros 55 oed.

 “Mae hwn yn ganlyniad arall gwych i Chris,” meddai Peter Drew, prif weithredwr Tennis Cymru.  “Mae’n chwaraewr dyblau rhagorol, a dylai hyn ei ddyrchafu i safle uwch yn rhengoedd y byd.”

 “Mae tennis yn un o’r ychydig gemau y gallwch ei chwarae ar lefel gystadleuol waeth beth yw eich oedran.  Mae ffyrdd newydd hwyliog a hygyrch o chwarae’n golygu nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau chwarae tennis, ac mae Chris yn ysbrydoliaeth go iawn.”

 
 

WALES | TENNIS

Tennis Wales Office
Francis House
No 2 Drake Walk
Waterfront 2000, Cardiff CF10 4AN
029 20463335
tenniswales@tenniswales.org.uk