Local Tennis Leagues mean it’s anyone for tennis / Cynghreiriau Tennis Lleol yn rhoi cyfle i bawb

Tuesday, June 28, 2016

With the Wimbledon Championships now under way, and tennis fever in the air, Local Tennis Leagues will soon be starting around Wales to enable players of all standards to play competitive matches on local courts.

Local leagues are taking place in the following areas from July:

Flintshire:  closing date for entries - 11th July, starting on 14th July;

Cardiff: closing date for entries - 4th July, starting on 7th July;

Swansea: closing date for entries - 18th July, starting on 21st July;

Wrexham: closing date for entries - 4th July, starting on 7th July.

Anyone can sign up to play at www.local tennis leagues.com

Leagues are open to anyone aged 18 and over, and offer the chance to meet other players and play in friendly competition, without the need to join a club, as matches are arranged to suit the players.

 “Local Tennis Leagues offer a great opportunity for people of all abilities and ages, above 18, to get involved in friendly, competitive tennis at a venue and time to suit them, without joining a club,” said Tennis Wales chief executive, Peter Drew.

“We now have leagues established or launching at venues in North and South Wales, and we’re hoping more will follow.”

Information is available at www.localtennisleagues.com or from Tennis Wales.

--------------------------------------------------------------------------------------------

Gyda phencampwriaeth Wimbledon wedi dechrau erbyn hyn, a’r byd tennis wedi cyffroi drwyddo, bydd Cynghreiriau Tennis Lleol yn dechrau’n fuan o amgylch Cymru i alluogi chwaraewyr o bob safon i chwarae gornestau cystadleuol ar gyrtiau lleol.

Bydd Cynghreiriau Lleol ar gael yn yr ardaloedd canlynol o Orffennaf ymlaen:

Sir y Fflint:  dyddiad cofrestru olaf – 11eg Gorffennaf, dechrau ar 14eg Gorffennaf

Caerdydd:  dyddiad cofrestru olaf - 4ydd Gorffennaf, dechrau ar 7fed Gorffennaf

Abertawe:  dyddiad cofrestru olaf – 18fed Gorffennaf, dechrau ar 21ain Gorffennaf

Wrecsam:  dyddiad cofrestru olaf -  4ydd Gorffennaf, dechrau ar 7fed Gorffennaf

Gall unrhyw un gofrestru i chwarae ar www.local tennis leagues.com

Mae’r Cynghreiriau’n agored i bawb sy’n 18 a throsodd, ac maent yn gyfle i gwrdd â chwaraewyr eraill, a chwarae mewn cystadlaethau cyfeillgar, heb yr angen i ymuno â chlwb, am fod y gornestau’n cael eu trefnu i siwtio’r chwaraewyr.

 "Mae Cynghreiriau Tennis Lleol yn cynnig cyfle gwych i bobl o bob oed a gallu, sydd dros 18, i chwarae tennis cystadleuol, cyfeillgar mewn lleoliad, ac ar adeg sy’n eu siwtio nhw, heb ymuno â chlwb,” meddai prif weithredwr Tennis Cymru, Peter Drew.

“Erbyn hyn mae gennym gynghreiriau wedi’u sefydlu neu’n cael eu lansio mewn lleoliadau yn Ne a Gogledd Cymru, ac rydym yn gobeithio bod mwy i ddod.

Mae gwybodaeth ar gael ar www.localtennisleagues.com neu oddi wrth Tennis Cymru.

 
 

WALES | TENNIS

Tennis Wales Office
Francis House
No 2 Drake Walk
Waterfront 2000, Cardiff CF10 4AN
029 20463335
tenniswales@tenniswales.org.uk