UPDATED: Davis Cup Tour

Monday, March 07, 2016

The Davis Cup by BNP Paribas is coming to Wales as part of a national Trophy Tour of Great Britain.

Following Team GB’s historic win against Belgium in the 2015 Davis Cup Final, when Britain lifted the trophy for the first time in 79 years, the Lawn Tennis Association (LTA) wanted to celebrate this momentous occasion by delivering the Davis Cup Trophy Tour across the country to thank the tennis community including players, coaches, venues and volunteers who supported the team on its incredible journey.

The trophy tour is designed as a celebration and also a way to inspire a new generation to pick up a racket and get involved in tennis.

The trophy will be making a five-day tour of Wales at the following venues and events:

August 5:         National Eisteddfod in Abergavenny

August 6:         Rhiwbina Tennis Club

August 7:         Llanelli Tennis Club

August 9:         The Anglesey Show

August 10:       Ruthin Tennis Club.

The events will give people a rare opportunity to see and be pictured with the impressive Davis Cup Trophy. Details of timings and activities around each event will be announced nearer the time. 

Peter Drew, chief executive of Tennis Wales, said: “Great Britain’s Davis Cup win was a fantastic achievement, and the trophy tour is a great way to thank the supporters, volunteers, players and club officials who are the backbone of British tennis.

 “It’s tremendous to have the trophy in Wales for five days and for it to go on display around the country.

 “We have seen substantial growth in tennis participation in Wales in recent years, and I am sure the Davis Cup victory and the trophy tour will inspire even more people to get involved.”

 To find out further information about the Davis Cup Legacy visit: www.lta.org.uk/daviscuplegacy

 

----------------------------------------------------------------------------

Taith Cwpan Davis gan BNP Paribas yn dod i Gymru 

 

 

Mae Cwpan Davis gan BNP Paribas yn dod i Gymru fel rhan o daith genedlaethol y Tlws o amgylch Prydain.

 

Yn dilyn buddugoliaeth hanesyddol tîm Prydain yn erbyn Gwlad Belg yn rownd olaf Cwpan Davis 2015, pan gododd Prydain y tlws am y tro cyntaf mewn 79 mlynedd, roedd yr LTA (Lawn Tennis Association) am ddathlu’r achlysur pwysig hwn.  Trefnwyd felly bod Tlws Cwpan Davis yn mynd ar daith o amgylch Prydain i ddiolch i’r gymuned dennis, gan gynnwys chwaraewyr, hyfforddwyr, lleoliadau a gwirfoddolwyr a gefnogodd y tîm ar ei siwrnai anhygoel.

 

Bwriad y daith yw dathlu, yn ogystal ag ysbrydoli cenhedlaeth newydd i godi raced a mynd ati i chwarae tennis.

 

Bydd y tlws yn mynd ar daith pum diwrnod o amgylch Cymru, gan ymweld â’r lleoliadau a’r digwyddiadau canlynol:

 

Awst 5:         Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni

Awst 6:         Clwb Tennis Rhiwbeina

Awst 7:         Clwb Tennis Llanelli

Awst 9:         Sioe Môn

Awst 10:       Clwb Tennis Rhuthun.

 

Bydd y digwyddiadau’n rhoi cyfle prin i bobl weld a chael tynnu’u llun gyda Thlws trawiadol Cwpan Davis.  Cyhoeddir manylion pellach am amserau a gweithgareddau pob digwyddiad yn nes at yr amser.

 

Dywedodd Peter Drew, prif weithredwr Tennis Cymru:  “Roedd ennill Cwpan Davis yn gamp aruthrol i dîm Prydain, ac mae’r daith yn ffordd wych o ddiolch i’r cefnogwyr, gwirfoddolwyr, chwaraewyr a swyddogion clybiau hynny sy’n asgwrn cefn y byd tennis ym Mhrydain.

 

“Mae’n wych cael y tlws yng Nghymru am bum diwrnod a’i fod yn cael ei arddangos o amgylch y wlad.

 

“Rydym wedi gweld twf sylweddol yn y nifer sy’n chwarae tennis yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, a dwi’n siŵr y bydd buddugoliaeth Cwpan Davis a thaith y tlws yn ysbrydoli mwy o bobl i gymryd rhan.”

 

I gael mwy o wybodaeth am brosiect Etifeddiaeth Cwpan Davis ewch i: www.lta.org.uk/daviscuplegacy

 
 

WALES | TENNIS

Tennis Wales Office
Francis House
No 2 Drake Walk
Waterfront 2000, Cardiff CF10 4AN
029 20463335
tenniswales@tenniswales.org.uk