Tennis Tuesdays offer fun, informal tennis for women / ‘Tennis Tuesdays’ yn cynnig tennis anffurfiol a difyr i ferched

Thursday, May 12, 2016

A new series of fun, informal tennis sessions at local parks and clubs across Wales has got under way to inspire more women to play tennis more often.

Tennis Tuesdays was launched last year and is back for 2016, organised by Tennis Wales and the Lawn Tennis Association (LTA) with Nike.

This year, Tennis Tuesdays are available at venues around Wales, including Cardiff, Wrexham, Newport, Usk, Penarth, Dinas Powys, Llantrisant, and Barry.

The weekly sessions are organised by local tennis coaches and will take place every Tuesday for those who want to play more and develop their tennis skills further while having fun and meeting new people.

Peter Drew, chief executive of Tennis Wales, said: “The Tennis Tuesdays programme proved very popular last year, and more venues have been added for 2016.

“It offers women the chance to play with like-minded people and fits easily into busy lifestyles. It’s a fun way to get some exercise, meet people, and relieve the stresses of the day.”

Each weekly session focuses on one of six themes and include fun match play. Rackets and balls are provided, so you can simply turn up in your sports kit and get on court.

 To find a venue near you, or for further information, visit www.tennistuesdays.co.uk

 

---------------------------------------------------------------------------

Mae cyfres newydd o sesiynau tennis anffurfiol, llawn hwyl wedi dechrau mewn parciau a chlybiau lleol ar draws Cymru, i ysbrydoli mwy o ferched i chwarae tennis yn amlach. 

Lansiwyd Tennis Tuesdays y llynedd ac mae yn ei ôl ar gyfer 2016, wedi’i drefnu gan Tennis Cymru a’r LTA (Lawn Tennis Association), gyda Nike.

Eleni mae’r rhaglen Tennis Tuesdays ar gael mewn lleoliadau o amgylch Cymru, gan gynnwys Caerdydd, Wrecsam, Casnewydd, Brynbuga, Penarth, Dinas Powys, Llantrisant a’r Barri. 

Trefnir y sesiynau wythnosol gan hyfforddwyr tennis lleol, ac fe’u cynhelir bob dydd Mawrth i’r rhai sydd am chwarae mwy a datblygu’u sgiliau tennis ymhellach, tra’n cael hwyl a chwrdd â phobl newydd.

 

Meddai Peter Drew, prif weithredwr Tennis Cymru: “Roedd y rhaglen Tennis Tuesdays yn hynod o boblogaidd y llynedd, ac ychwanegwyd mwy o leoliadau ar gyfer 2016.

 

“Mae’n cynnig cyfle i ferched i chwarae gyda phobl o’r un meddylfryd, ac mae’n siwtio pobl sydd â bywydau prysur.  Mae’n ffordd ddifyr o ymarfer, cwrdd â phobl, a lleddfu holl straen y dydd.”

 

Bob wythnos mae’r sesiwn yn canolbwyntio ar un o chwe thema ac yn cynnwys gornest a chwaraeir am hwyl yn unig.  Darperir racedi a pheli, felly'r cyfan sydd angen ichi ei wneud yw mynd yno yn eich cit chwaraeon a mynd ar y cwrt.

I ddod o hyd i leoliad yn eich ymyl chi, neu i gael mwy o wybodaeth, ewch i www.tennistuesdays.co.uk

 
 

WALES | TENNIS

Tennis Wales Office
Francis House
No 2 Drake Walk
Waterfront 2000, Cardiff CF10 4AN
029 20463335
tenniswales@tenniswales.org.uk