People of all ages and abilities across Wales are being invited to join Britain’s biggest summer of tennis.
The first of two Great British Tennis Weekends (GBTW) of 2016 takes place on May 14-15 at a variety of locations across Wales.
Organised by the Lawn Tennis Association and Tennis Wales, the free events are aimed at encouraging men, women and children of all backgrounds to enjoy playing one of the nation’s most loved sports with friends and family, no matter what their ability.
The weekends form the biggest public tennis event ever held in Britain, and are taking place across Wales this summer, including at: Swansea, Cardiff, Wrexham, Neath, Llanelli, Llanidloes, Newtown, Cwmbran, Caerphilly, Llantrisant, Ruthin, Bridgend, Usk, Pentyrch, Mold, Rhyl, and Penarth.
The two designated weekends are May 14-15 and July 16-17. Some GBTW events are taking place on other weekends too.
To find events in your area and book your free place, visit www.lta.org.uk/gbtw
“One of the great things about tennis is that anyone can play it, regardless of age or ability,” said Peter Drew, chief executive of Tennis Wales.
“Great British Tennis Weekends provide an opportunity for people to find out for themselves, as families and friends get together to try it for free in a relaxed and fun atmosphere.
“Tennis isn’t all about serious competition - many of the GBTW events include exciting new formats such as cardio tennis, touch tennis, and mini tennis.”
Meanwhile, Local Tennis Leagues are being formed around Wales to enable players of all standards to play competitive matches on local courts.
Leagues are currently being run in Wrexham, Swansea, Neath Port Talbot and Cardiff, and are open to anyone aged 18 and over.
Local Tennis Leagues offer the chance to meet other players and play in competition, without the need to join a club, as matches are arranged to suit the players.
Information is available at www.localtennisleagues.com or from Tennis Wales.
------------------------------------------------------------------------------------------
Cymru’n paratoi ar gyfer yr haf tennis mwyaf erioed
Mae pobl o bob oed a gallu ar draws Cymru’n cael eu gwahodd i ymuno â haf tennis mwyaf Prydain.
Mae’r cyntaf o ddau benwythnos GBTW (Great British Tennis Weekends) 2016 yn cymryd lle ar Mai 14-15 mewn lleoliadau gwahanol ar draws Cymru.
Nod y digwyddiadau rhad ac am ddim hyn, a drefnwyd gan yr LTA (Lawn Tennis Association) a Tennis Cymru, yw annog dynion, menywod a phlant o bob cefndir i fwynhau chwarae un o gemau mwyaf poblogaidd y genedl gyda theulu a ffrindiau, waeth beth yw lefel eu gallu.
Mae’r penwythnosau hyn yn ffurfio’r digwyddiad tennis cyhoeddus mwyaf i’w gynnal erioed ym Mhrydain, ac maent yn digwydd ar draws Cymru yr haf hwn, gan gynnwys: Abertawe, Caerdydd, Wrecsam, Castell Nedd, Llanelli, Llanidloes, Y Drenewydd, Cwmbrân, Caerffili, Llantrisant, Rhuthun, Pen-y-bont ar Ogwr, Brynbuga, Pentyrch, Yr Wyddgrug, Rhyl, a Phenarth.
Y ddau benwythnos dynodedig yw Mai 14-15 a Gorffennaf 16-17. Mae rhai digwyddiadau GBTW yn cymryd lle ar benwythnosau eraill hefyd.
I gael gwybod am y digwyddiadau yn eich ardal chi, ac i archebu’ch lle am ddim, ewch i www.lta.org.uk/gbtw
“Un o’r pethau gwych am dennis yw bod unrhyw un yn gallu’i chwarae, waeth beth yw ei oed neu’i allu,” meddai Peter Drew, prif weithredwr Tennis Cymru.
“Mae’r ‘Great British Tennis Weekends’ yn gyfle i bobl ganfod y gêm drostyn nhw’u hunain, wrth i deuluoedd a ffrindiau ddod ynghyd i roi cynnig arni’n ddi-dâl mewn awyrgylch hamddenol a hwyliog.
“Nid mater o gystadlu difrifol yn unig yw tennis – mae nifer o’r digwyddiadau GBTW yn cynnwys fformatau newydd cyffrous, fel tennis cardio, tennis cyffwrdd a thennis mini.”
Yn y cyfamser, mae Cynghreiriau Tennis Lleol yn cael eu ffurfio ar draws Cymru i alluogi chwaraewyr o bob safon i chwarae gornestau cystadleuol ar gyrtiau lleol.
Ar hyn o bryd mae cynghreiriau’n cael eu rhedeg yn Wrecsam, Abertawe, Nedd Port Talbot a Chaerdydd, ac maent yn agored i unrhyw un sy’n 18 oed neu drosodd.
Mae Cynghreiriau Tennis Lleol yn gyfle i gwrdd â chwaraewyr eraill, a chystadlu heb yr angen i ymuno â chlwb, am fod y gornestau’n cael eu trefnu i siwtio’r chwaraewyr.
Mae gwybodaeth ar gael ar www.localtennisleagues.com neu gan Tennis Cymru.