Star-studded Cardiff Met team wins national tennis title for third year on the bounce / Tîm talentog Met Caerdydd yn cipio teitl tennis cenedlaethol am y drydedd flwyddyn yn olynol

Monday, April 24, 2017

Cardiff Metropolitan University has won the National Premier League doubles tennis title for a record-equalling third successive year.

The four-man team secured the title at the national finals in Leeds, featuring the top 16 teams, qualifying from different regions throughout the UK.

The star-studded Cardiff Met team included Jonny Marray, who won the Wimbledon doubles title in 2012, and Marcus Willis, who went on a famous run at Wimbledon in the singles event last year.

The team was completed by Welsh ex-professionals Chris Lewis and Craig Evans.  Lewis captains the team and is the head performance coach at Cardiff Met, while Evans is the head coach of Virgin Active Glamorgan near Swansea.

Last month, Lewis helped Team GB to the silver medal in the ITF (International Tennis Federation) World Team Games in South Africa.

Despite having such a strong line up, Cardiff Met weren't the top seeded team at the event but were expected to reach the final.  The team did so fairly comfortably beating Edgbaston Priory 4-0 in the quarter final and then Virgin Active Norfolk 4-0 in the semi-final.

The opponents in the final were the famous Queen's Club which hosts one of the warm-up grass court events prior to Wimbledon.  

In a close match, both the Cardiff Met pairings won one out of their two matches to leave the score tied at 2-2, sending the match to a shoot-out with one player from each pair combining to play a first to ten points 'match tie-break'.

Team captain Chris Lewis paired up with Wimbledon champ Jonny Marray to win the shoot-out 10-4 and retain the trophy.

“The team finished as runners up twice before winning the event for the first time and now we aren't letting go of the trophy easily!” said captain Chris Lewis.

“Myself and Craig played great all weekend at second pair, but to be able to win an event at this level you need players of an even higher calibre and we certainly had that with Jonny and Marcus this year.

“To team up with Jonny for the shoot-out is a memory that will stay with me for a long time and to get the win made it extra special.  We will certainly be going for a record-breaking fourth straight win next year.”

As current champions the team will now receive a direct acceptance into the finals of the event in 2018.

“This is a fantastic achievement for Chris and his team,” said Peter Drew, chief executive of Tennis Wales. “The NPL is a very high level of competition, and to bring the title to Wales for a third year in a row is quite remarkable.”

-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cipio teitl dyblau tennis y Brif Gynghrair Genedlaethol am y drydedd flwyddyn yn olynol.

 

Cipiodd y tîm o bedwar y teitl yn y rowndiau terfynol cenedlaethol yn Leeds, oedd yn cynnwys yr 16 tîm a ddaeth i’r brig ar ôl ennill eu lle o fewn rhanbarthau gwahanol ar draws y Deyrnas Unedig.

 

Roedd tîm Met Caerdydd yn un llawn sêr, gan gynnwys Jonny Marray, a gipiodd teitl dyblau Wimbledon yn 2012, a Marcus Willis, a gafodd y rhediad enwog o fuddugoliaethau yn y senglau yn Wimbledon y llynedd.

 

Y ddau aelod arall oedd y cyn-chwaraewyr Cymreig proffesiynol, Chris Lewis a Craig Evans.  Lewis yw capten y tîm ac mae’n brif hyfforddwr perfformiad gyda Met Caerdydd, tra bod Evans yn brif hyfforddwr gyda Virgin Active Morgannwg ger Abertawe.

 

Y mis diwethaf, helpodd Lewis dîm Prydain i gipio medal arian yng Ngemau Tîmau ITF (International Tennis Federation) y Byd yn Ne Affrica.

 

Serch bod y tîm yn un mor gryf, nid Met Caerdydd oedd y prif ddetholion yn y gystadleuaeth, ond roedd disgwyl iddynt gyrraedd y rownd derfynol.  Mi wnaethon nhw hynny’n weddol gyfforddus trwy guro Edgbaston Priory 4-0 yn rownd yr wyth olaf ac yna  Virgin Active Norfolk 4-0 yn y rownd gynderfynol.

 

Eu gwrthwynebwyr yn y rownd olaf oedd y Queen’s Club enwog, lle cynhelir un o’r cystadlaethau cyrtiau glaswellt sy’n rhoi cyfle i chwaraewyr gynhesu cyn Wimbledon.

 

Mewn gornest glos, enillodd ddau bâr tîm Met Caerdydd un gornest allan o ddwy, gan olygu bod y sgôr yn gyfartal ar 2-2, a bod gofyn i un chwaraewr o bob pâr i ddod at ei gilydd i chwarae datglwm ‘cyntaf i ddeg’.

 

Pâr y Met Caerdydd oedd capten y tîm, Chris Lewis, a’r pencampwr Wimbledon, Jonny Marray, a enillodd y datglwm 10-4 a dal eu gafael ar y tlws.

 

“Mae’r tîm wedi dod yn ail ddwywaith  cyn ennill y gystadleuaeth am y tro cyntaf, ac felly rydym yn benderfynol o ddal ein gafael ar y tlws!” meddai’r capten Chris Lewis.

 

“Chwaraeais i a Craig yn dda iawn trwy’r penwythnos fel yr ail bâr, ond er mwyn gallu ennill ar y lefel hon mae angen chwaraewyr o galibr uwch na hynny hyd yn oed, a dyna oedd gennym yn bendant yn Jonny a Marcus eleni.

 

“Roedd paru gyda Jonny ar gyfer y datglwm yn  brofiad a fydd yn aros gyda mi am amser hir, ac roedd ennill yn gwneud yr holl beth hyd yn oed yn fwy arbennig.  Mi fyddwn ni’n bendant yn anelu at fod y tîm cyntaf  erioed i ennill pedwar tro yn olynol y flwyddyn nesaf.”

 

Fel y pencampwyr presennol mi fyddwn ni’n cael ein derbyn yn uniongyrchol i rowndiau terfynol y gystadleuaeth yn 2018.

 

“Mae hon yn fuddugoliaeth wych i Chris a’i dîm,” meddai Peter Drew, prif weithredwr Tennis Cymru. “Mae’r NPL yn gystadleuaeth lefel uchel, ac mae dod â’r tlws yn ôl i Gymru am y drydedd flwyddyn yn olynol yn dipyn o gamp.”

 
 

WALES | TENNIS

Tennis Wales Office
Francis House
No 2 Drake Walk
Waterfront 2000, Cardiff CF10 4AN
029 20463335
tenniswales@tenniswales.org.uk