Success Story as James helps GB to Winter Cup victory / Stori Lwyddiant wrth i James helpu tîm Prydain i fuddugoliaeth yng Nghwpan y Gaeaf

Tuesday, February 21, 2017

One of the rising stars of Welsh tennis, James Story, helped Great Britain boys to victory in the Tennis Europe 16U Winter Cup.

James, who trains at Cardiff Metropolitan University, was part of the three-player GB 16U team who won the title in France.

GB beat the hosts in the semi-final which included James in the deciding doubles, winning the tie 2-1 through an 11-9 match tie-break. In the final, the team overcame Belgium, who had beaten them in the initial group stage.

The team also included Harry Wendelken and Jacob Fearnley, and was captained by Wimbledon doubles quarter-finalist Chris Wilkinson.

Meanwhile, Morgan Cross (who trains at Wrexham Tennis Centre), played at number 1 for GB girls as they gained fifth place in their 16U Winter Cup finals, having won the qualifying group.

“Having players from Wales being selected for Great Britain is a huge achievement,” said Tennis Wales chief executive, Peter Drew. “To be part of a GB team that wins the Winter Cup is absolutely fantastic.

“James and Morgan have done Wales and GB proud, through their talent and dedication, and this success is also recognition of the coaching and support they receive in Wales.”

Both James and Morgan will be contending for a place in the Wales squad for the Youth Commonwealth Games in the Bahamas this year.

 

---------------------------------------------------------------------------------------

Helpodd un o sêr addawol y byd tennis yng Nghymru, James Story, dîm bechgyn Prydain i fuddugoliaeth yn adran 16 ac Iau Cwpan y Gaeaf Tennis Ewrop.

Roedd James, sy’n hyfforddi ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, yn rhan o’r tîm o dri chwaraewr  Prydeinig 16 ac Iau a gipiodd y teitl yn Ffrainc.

Curodd Prydain y tîm cartref yn y rownd gynderfynol, gyda James yn ennill datglwm yr ornest derfynol 11-9 i sicrhau buddugoliaeth 2-1 yn y dyblau .  Yn y rownd derfynol, llwyddodd y tîm i oresgyn Gwlad Belg, a oedd wedi’u curo yn y rownd grwpiau cychwynnol.

 

Roedd y tîm hefyd yn cynnwys Harry Wendelken a Jacob Fearnley, a’r capten oedd  Chris Wilkinson a gyrhaeddodd yr wyth olaf yn y dyblau yn Wimbledon.

Yn y cyfamser, chwaraeodd  Morgan Cross (sy’n hyfforddi yng Nghanolfan Tennis Wrecsam) yn safle rhif 1 merched Prydain wrth iddyn nhw sicrhau’r pumed safle yn rowndiau terfynol 16 ac Iau Cwpan y Gaeaf, ar ôl ennill y rownd grwpiau.

“Mae gweld chwaraewyr o Gymru’n cael eu dewis ar gyfer timau Prydain yn gyflawniad aruthrol,” meddai prif weithredwr Tennis Cymru, Peter Drew.  “Mae bod yn rhan o dîm Prydain sy’n ennill yng Nghwpan y Gaeaf yn wirioneddol wych.

“Gall James a Morgan ymfalchïo yn yr hyn maent wedi’i gyflawni dros Gymru a Phrydain trwy eu dawn a’u hymroddiad, ac mae’r llwyddiant hwn hefyd yn gydnabyddiaeth i’r hyfforddiant a’r cymorth maent yn ei dderbyn yng Nghymru.”

Bydd James a Morgan yn cystadlu am le yn sgwad Cymru ar gyfer Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn y Bahamas eleni.

 
 

WALES | TENNIS

Tennis Wales Office
Francis House
No 2 Drake Walk
Waterfront 2000, Cardiff CF10 4AN
029 20463335
tenniswales@tenniswales.org.uk