Chris helps Team GB to world championship silver /Chris yn helpu tîm Prydain i gipio’r fedal arian

Tuesday, March 28, 2017

Cardiff-based tennis pro Chris Lewis helped Team GB to the silver medal in the ITF (International Tennis Federation) World Team Games in South Africa.

GB defeated Russia 2-1, Mozambique 3-0, defeated USA 3-0, and Spain 2-1 to reach the over-35s final against France. The French won 2-0, with the final match not needing to be played.

Lewis, who is head performance coach at Cardiff Metropolitan University in association with XL Tennis, and is originally from Neath, was making his GB debut, in his first year of eligibility in this ‘young seniors’ age group.

He partnered James Auckland to victory, 7-6(2), 6-2, over Russian pair Mikhail Elgin and Leonid Mazo, before beating Mozambique’s Bruno Figueiredo in the singles 6-0, 6-0.

In the next match, he beat Stuart Duncan of the USA, 6-2, 6-4, but in the semi-final, lost to Spain’s Pedro Sala-Lozano, 6-7(1), 3-6, and in the final, lost to France’s Steeve Noblecourt, 4-6, 3-6.

The tournament in Cape Town involved 86 four-man teams from 26 countries.

“I feel very fortunate to have had such an amazing experience in Cape Town and to come back with a silver medal is fantastic,” said Lewis. “Competing against a different country each day made for a great event and I know I speak for the whole team when I say that we'd like to go one better next year!”

Tennis Wales chief executive, Peter Drew added: “This was a fantastic result for Great Britain, and for Chris on his debut. Playing for GB is the ultimate honour at team level, and to achieve the silver medal in such a strong competition is really a great achievement.”

----------------------------------------------------------------------------

Helpodd y chwaraewr tennis proffesiynol o Gaerdydd, Chris Lewis, dîm Prydain i gipio’r fedal arian yng Ngemau Timau ITF (International Tennis Federation) y Byd yn Ne Affrica.

Trechodd tîm Prydain Rwsia 2-1, Mozambique 3-0, yr Unol Daleithiau 3-0, a Sbaen 2-1 i gyrraedd y rownd derfynol i rai dros 35 yn erbyn Ffrainc.  Enillodd Ffrainc 2-0 heb fod angen chwarae’r ornest olaf.

Roedd Lewis, sy’n brif hyfforddwr perfformiad ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd mewn cydweithrediad ag XL Tennis, ac sy’n dod yn wreiddiol o Gastell Nedd, yn chwarae i dîm Prydain am y tro cyntaf, a hynny yn ei flwyddyn gyntaf yn y grŵp oedran ‘feteran ifanc’. 

Cafodd fuddugoliaeth 7-6(2), 6-2 gyda’i bartner, James Auckland, yn erbyn y pâr o Rwsia, Mikhail Elgin a Leonid Mazo, cyn trechu Bruno Figueiredo o Mozambique 6-0, 6-0 yn y senglau.

Yn yr ornest nesaf, curodd Stuart Duncan o’r Unol Daleithiau 6-2, 6-4, ond yn y rownd gynderfynol, collodd i Pedro Sala-Lozano o Sbaen, 6-7(1), 3-6, ac yn y rownd derfynol, collodd i Steeve Noblecourt o Ffrainc, 4-6, 3-6.

Roedd 86 o dimau o bedwar o 26 o wledydd yn cymryd rhan yn y twrnamaint yn Cape Town.

“Rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod wedi cael profiad mor anhygoel yn Cape Town, ac mae dod yn ôl efo medal arian yn wych,” meddai Lewis.  “Roedd cystadlu yn erbyn gwlad wahanol bob dydd yn gwneud y digwyddiad yn un arbennig iawn a dwi’n gwybod fy mod i’n siarad ar ran y tîm cyfan trwy ddweud yr hoffem fynd un cam ymhellach y flwyddyn nesa!”

Ychwanegodd prif weithredwr Tennis Cymru, Peter Drew:  “Roedd hwn yn ganlyniad gwych i Brydain, ac i Chris, oedd yn chwarae i’r tîm am y tro cyntaf.  Chwarae i Brydain yw’r anrhydedd mwyaf ar lefel tennis timau, ac mae cipio’r fedal arian mewn cystadleuaeth mor gref yn gamp go iawn.”

 
 

WALES | TENNIS

Tennis Wales Office
Francis House
No 2 Drake Walk
Waterfront 2000, Cardiff CF10 4AN
029 20463335
tenniswales@tenniswales.org.uk