#OurSquad blog: A fantastic blog on Cardio Tennis

Wednesday, November 01, 2017

Read below a hilarious blog from #OurSquad on the benefits of Cardio Tennis.

Welsh Girl Problems makes a racket with #OurSquad

Remember a couple of weeks ago when I was supposed to go play tennis as part of the WGP/ Our Squad partnership? Avid fans of my Insta stories will recall that due to some pretty typical Welsh weather, the lesson was called off. You’ll also remember that rather than say, run home or find another local class, I went to a bar in town and drank Prosecco in my sports kit … like some sort of fraud.

Well, a couple of Fridays ago, the wind and rain held off long enough for me to get my butt down to the Mackintosh Sports Club for their Friday night ‘Cardio Tennis’ class. Remember me mentioning the importance of sport bras in my running blog, well I recently invested in a new one ahead of this class and dew, did it make a difference?! According to my sister (and science), your boobs move around 15 centimetres during running, in all directions, so a good bra really is as important as your trainers. So, enter me, new bra nice and snug, water bottle topped up and channeling my inner Williams sister, I headed down to the club full of confidence. I’d hit a few tennis balls about before, played a bit as a kid and knew what a rally was. This’ll be lush I thought.

What I didn’t know, was just how much cardio was involved with cardio tennis. Looking back, it should have been obvious.  Our coach for the evening Emlyn warmed us up with a light jog around the courts, mixed with some side steps and those like funny high knee lifts that make you look like a show horse (I’m sure I’ll learn the lingo soon) …

We were split into pairs and did a couple of fun exercises which involved throwing a tennis ball to one another as we jogged about. The hour lesson was then split into a mix of activities like completing short circuits and hitting balls Emlyn threw to us. The buzz I got from hitting the ball over the net was literally about 4000% better than I imagined and I loved all the bits of the class that involved us rallying, or playing actual tennis. I’m not super fit (shock) so I struggled a bit with the cardio, but my partner for the evening Karen was so supportive and encouraging, dishing out loads of high fives! In fact, everyone in the group (there was about 8 of us) was so lovely! This isn’t the Fred Perry and cream tea country club vibe I envisioned’ I splutter, wiping sweat from my brow and trying to work out just how red my face might be on a scale of 1 to say, the Ddraig Goch.

The class laughs (did they? Or do I just add a laughter track to all my memories?) This is more of a workout they tell me, and I consider for one second telling Emlyn I can’t do PE this week and forging a note from my mam. Then I remember I’m an adult, I signed up for this and as I’m bouncing around on the spot, racket in hand, something amazing happens. Endorphins kick in.

Because I NEVER push myself physically, this is a completely new feeling to me, one I can only liken to finding that the price of your dream pair of shoes have now been reduced, or say, winning a new contract at work. Suddenly I’ve got a spring in my step, I’m running faster, hitting balls better, making the class laugh louder (again, dunno if this happened)! Emlyn has introduced a new exercise to the schedule, ‘How are you finding the new addition?’ He asks as we’re jumping from burpees to those like climbing the floor exercises.

Automatically, I assume he’s talking about the real star of the show and the main new addition, ME! I jump up and wave to the class like I’ve just run through the finish line of a marathon.  The class fall about, loving it.  Thinking about it, it might be the euphoria of the endorphins that have made me remember so much laughter? I dunno, but I do know the endorphins can definitely account for the fact that I left the lesson asking about membership and telling the group I’d be seeing them again. Of all the classes I’ve attended as part of the #OurSquad research, this has been my favourite by miles. So much so I’ve since googled ‘What racket does Serena Williams use?’ and ‘How long does it take to be mint at tennis?’

For more information about the classes that Mackintosh Sports Club put on, or if you fancy swapping your Prosecco for Princes Gate and joining me there one Friday night, click here, visit
http://www.mackintoshsportsclub.org/sports/tennis/

We are glad you enjoyed and we wish you luck on your venture to become the next Serena Williams!

 

More information on #OurSquad can be found here: http://oursquad.cymru/2017/11/01/welsh-girl-problems-makes-a-racket-with-oursquad/?utm_source=facebook&utm_medium=oursquad&utm_campaign=111

 

----------------------------------------------------------------------------------------------

Problemau Merch Gymraeg yn creu dipyn o ‘raced’ gyda #SgwadNi

Cofio ychydig wythnosau’n ôl pan o’n i i fod i fynd i chwarae tennis fel rhan o bartneriaeth PMG / Sgwad Ni? Wel, fe fydd cefnogwyr brwd fy straeon i ar Insta’n cofio bod y wers wedi cael ei chanslo oherwydd tywydd gwael arferol Cymru. Fe fyddwch chi hefyd yn cofio ’mod i, yn lle rhedeg adref neu fynd i chwilio am ddosbarth arall, wedi mynd i Nine Yards yn dre’ ac yfed Prosecco yn fy nillad chwaraeon, yn dwyll i gyd.

Wel, bythefnos yn ôl, doedd dim gwynt a glaw ac felly roedd rhaid i mi hel fy nhin draw i Glwb Chwaraeon Mackintosh ar gyfer y dobsarth ‘Tennis Cardio’ sy’n cael ei gynnal yno ar nos Wener. Cofio fi’n sôn an fra chwaraeon yn y blog rhedeg wnes i, a pha mor bwysig yw e, wel, yn ddiweddar, rydw i wedi buddsoddi mewn un newydd yn barod ar gyfer y dosbarth yma, a bobol bach, roedd e’n gwneud gwahaniaeth! Yn ôl fy chwaer, a gwyddoniaeth, mae eich bŵbs chi’n symud o gwmpas ryw 15 centimetr wrth redeg, i bob cyfeiriad, felly mae bra da mor bwysig â’ch esgidiau ymarfer chi. Felly i ffwrdd â fi, yn fy mra newydd neis yn ffitio’n dda, potel ddŵr lawn yn fy llaw, i lawr i’r clwb yn llawn hyder.

Roeddwn i wedi taro ambell bêl dennis o’r blaen, chwarae dipyn yn blentyn ac roeddwn i’n gwybod beth oedd rali. ’Fydd hyn yn lysh meddyliais. Ond doeddwn i heb sylweddoli faint o ‘cardio’ sydd mewn ‘tennis cardio’. O edrych yn ôl, fe ddylai fod wedi bod yn amlwg.

Yr hyfforddwr am y noson oedd Emlyn ac fe gawson ni sesiwn cynhesu gyda mymryn o loncian rownd y cyrtiau a dipyn o stepiau ochr a’r codi pen-glin doniol ’na sy’n gwneud i chi edrych fel ceffyl mewn sioe. (Rydw i’n siŵr y dysga i’r lingo cyn hir…) Wedyn, fe gawson ni’n rhannu’n barau i wneud un neu ddau o ymarferion hwyliog oedd yn cynnwys taflu pêl dennis ar ein gilydd wrth i ni loncian.

Ac wedyn fe gafodd y wers awr ei rhannu’n gymysgedd o weithgareddau, fel cwblhau cylchedau byr a tharo peli roedd Emlyn yn eu taflu aton ni. Roedd y buzz ges i o daro’r bêl dros y rhwyd yn llythrennol tua 4000% yn well nag oeddwn i wedi’i ddychmygu ac roeddwn i’n caru pob rhan o’r dosbarth, oedd yn cynnwys rali neu chwarae tennis go iawn.

Dydw i ddim yn heini ofnadwy (sioc) felly fe ges i ychydig o drafferth gyda’r cardio, ond roedd fy mhartner i am y noson, Karen, mor gefnogol ac yn barod iawn gyda’i ‘high fives’! A dweud y gwir, roedd pawb yn y grŵp (roedd rhyw 8 ohonon ni) yn hyfryd!

Dydi hwn ddim fel rhyw glwb gwledig Fred Perry-aidd hefo te a sgons fel roeddwn i wedi’i ddisgwyl’ dywedais wrth sychu’r chwys ar fy nhalcen a cheisio penderfynu pa mor goch yn union oedd fy wyneb i ar raddfa o 1 i dyweder, y Ddraig Goch.

Roedd y dosbarth yn chwerthin dros y lle (rwy’n credu? Neu ydw i’n ychwanegu trac chwerthin at bob un o fy atgofion i?) Mae hwn yn fwy o ymarfer, medden nhw, ac rydw i’n ystyried am eiliad y byddai’n syniad da i mi ddweud wrth Emlyn nad ydw i’n gallu gwneud Addysg Gorfforol yr wythnos yma a ffugio nodyn gan mam.

Wedyn rydw i’n cofio ’mod i’n oedolyn sydd wedi dod i’r dosbarth yma o ddewis, ac wrth i mi fownsio yn fy unfan, raced yn fy llaw, mae rhywbeth rhyfeddol yn digwydd. Mae’r endorffinau’n cicio i mewn. Gan nad ydw i BYTH yn gwthio fy hun yn gorfforol, mae hwn yn deimlad cwbl newydd i fi, ac mae’n eithaf tebyg i ddarganfod bod pris pâr o esgidiau rydych chi wedi bod yn breuddwydio am eu cael yn lot rhatach erbyn hyn, neu eich bod chi wedi ennill contract newydd yn y gwaith.

Yn sydyn, rydw i’n teimlo’n llawer gwell, rydw i’n rhedeg yn gyflymach, yn taro peli’n well, yn gwneud i’r dosbarth chwerthin yn uwch (eto, dydw i ddim yn siŵr wnaeth hyn ddigwydd)! Mae Emlyn wedi cyflwyno ymarfer newydd yn rhan o’r amserlen, ‘Beth chi’n feddwl o’r ychwanegiad?’ mae’n gofyn, wrth i ni neidio o ‘burpees’ i ymarferion sydd fel dringo’r llawr. Yn awtomatig, rydw i’n meddwl ei fod yn siarad am seren y sioe a’r prif ychwanegiad newydd, FI! Rydw i’n neidio i fyny ac yn codi llaw ar y dosbarth yn union fel taswn i newydd redeg heibio llinell derfyn marathon.

Mae’r dosbarth ar eu gliniau, wrth eu bodd. O feddwl am y peth, efallai mai ewfforia’r endorffinau sydd wedi gwneud i mi gofio cymaint o chwerthin? Dwn i ddim, ond rydw i’n gwybod bod endorffinau’n gyfrifol amdana i’n gadael y wers yn holi am aelodaeth ac yn dweud wrth y grŵp y byddwn i’n eu gweld nhw eto i gyd. O’r holl ddosbarthiadau rydw i wedi bod ynddyn nhw fel rhan o ymchwil #SgwadNi, hwn ydi’r ffefryn o ddigon. Cymaint felly fel ’mod i, ers bod yno, wedi googlo ‘Pa raced mae Serena Williams yn ei ddefnyddio?’ a ‘Faint o amser mae’n ei gymryd i fod yn seren mewn tennis?’

Am fwy o wybodaeth am y dosbarthiadau yng Nghlwb Chwaraeon Mackintosh, neu os ydych chi awydd swopio’ch Prosecco am Princes Gate ac ymuno â fi yn y clwb ryw nos Wener, cliciwch yma.


 

 
 

WALES | TENNIS

Tennis Wales Office
Francis House
No 2 Drake Walk
Waterfront 2000, Cardiff CF10 4AN
029 20463335
tenniswales@tenniswales.org.uk