Biggest summer of tennis heats up in Wales / Pethau’n twymo ar gyfer yr haf mwyaf o dennis yng Nghymru

Monday, July 11, 2016

The second of this summer’s Great British Tennis Weekends (GBTW) takes place at locations across Wales this week (July 16-17).

People of all ages and abilities are being invited to join in, as Britain’s biggest summer of tennis heats up.

Organised by the Lawn Tennis Association and Tennis Wales, the free events are aimed at encouraging men, women and children of all backgrounds to enjoy playing one of the nation’s most loved sports with friends and family, no matter what their ability.

The weekends form the biggest public tennis event ever held in Britain, and are taking place across Wales this summer, including at:  Cardiff, Swansea, Wrexham, Newport, Llanelli, Abertillery, Caerphilly, Llantrisant, Bridgend, Usk, Monmouth, Haverfordwest, Bangor, Colwyn Bay, Milford Haven, Penarth, and Llandudno. 

Venues include clubs, parks, and even a castle – Penrhyn Castle, near Bangor.

To find events in your area and book your free place, visit www.lta.org.uk/gbtw

The year’s first GBTW took place in May and was judged a huge success. Some GBTW events are taking place on other weekends too.

 “Tennis is a game that anyone can play, regardless of age or ability,” said Peter Drew, chief executive of Tennis Wales. “As we saw in May, Great British Tennis Weekends provide an opportunity for people to find out for themselves, as families and friends get together to try tennis for free in a relaxed and fun atmosphere.”

Many GBTW events include new formats such as cardio tennis, touch tennis, and mini tennis.

 

----------------------------------------------------------------------------------------------

Mae’r ail o’r Great British Tennis Weekends (GBTW) yn digwydd mewn lleoliadau ar draws Cymru yr wythnos hon (Gorffennaf 16-17).

Mae pobl o bob oed a gallu’n cael eu gwahodd i ymuno, wrth i bethau ddechrau twymo ar gyfer yr haf mwyaf o dennis ym Mhrydain.

Nod y digwyddiadau rhad ac am ddim, a drefnir gan yr LTA (Lawn Tennis Association) a Tennis Cymru, yw annog dynion, merched, a phlant o bob cefndir i fwynhau chwarae un o hoff gemau’r genedl gyda ffrindiau a theulu, waeth beth yw eu gallu.

Mae’r penwythnosau hyn yn ffurfio’r digwyddiad tennis cyhoeddus mwyaf erioed i’w gynnal ym Mhrydain, ac maent yn cael eu cynnal ar draws Cymru, gan gynnwys:  Caerdydd, Abertawe, Wrecsam, Casnewydd, Llanelli, Abertyleri, Caerffili, Llantrisant, Pen-y-bont ar Ogwr, Brynbuga, Mynwy, Hwlffordd, Bangor, Bae Colwyn, Aberdaugleddau, Penarth, a Llandudno.

Mae’r lleoliadau’n cynnwys clybiau, parciau, a hyd yn oed castell, sef Castell Penrhyn ger Bangor.

I gael gwybod am ddigwyddiadau yn eich ardal chi ac i archebu lle am ddim, ewch i www.lta.org.uk/gbtw

Cynhaliwyd y GBTW cyntaf ym mis Mai ac fe’i barnwyd yn llwyddiant ysgubol.  Mae rhai digwyddiadau GBTW yn cymryd lle ar benwythnosau eraill hefyd.

 “Mae tennis yn gêm y gall unrhyw un ei chwarae, waeth beth yw ei oed neu’i allu,” meddai Peter Drew, prif weithredwr Tennis Cymru.  “Fel y gwelsom ym mis Mai, mae’r Great British Tennis Weekends yn rhoi cyfle i bobl i ddarganfod drostyn nhw’u hunain, wrth i deuluoedd a ffrindiau ddod ynghyd i chwarae’r gêm mewn awyrgylch hamddenol a hwyliog.”

Mae nifer o ddigwyddiadau GBTW yn cynnwys fformatau newydd megis tennis cardio, tennis cyffwrdd, a thennis mini.

 
 

WALES | TENNIS

Tennis Wales Office
Francis House
No 2 Drake Walk
Waterfront 2000, Cardiff CF10 4AN
029 20463335
tenniswales@tenniswales.org.uk