Davis Cup by BNP Paribas Tour comes to Wales / Taith Cwpan Davis gan BNP Paribas yn dod i Gymru

Monday, July 18, 2016

The Davis Cup by BNP Paribas arrives in Wales next month as part of a national Trophy Tour of Great Britain.

The famous Trophy will visit the National Eisteddfod in Abergavenny, the Anglesey Show, and tennis clubs in Rhiwbina, Llanelli, and Ruthin.

Following Team GB’s historic win against Belgium in the 2015 Davis Cup Final, when Britain lifted the Trophy for the first time in 79 years, the Lawn Tennis Association (LTA) wanted to celebrate this momentous occasion by delivering the Davis Cup Trophy Tour across the country to thank the tennis community including players, coaches, venues and volunteers who supported the team on its incredible journey.

The Trophy Tour is designed as a celebration and also a way to inspire a new generation to pick up a racket and get involved in tennis.

The Trophy’s Tour of Wales will take place as follows:

August 5:         National Eisteddfod in Abergavenny (10am – 5pm);

August 6:         Rhiwbina Tennis Club (10am – 1pm);

August 7:         Llanelli Tennis Club (2pm – 5pm);

August 9:         The Anglesey Show (10am – 5pm);

August 10:       Ruthin Tennis Club.(5-8pm).

The events will give people a rare opportunity to see and be pictured with the impressive Davis Cup Trophy. There will also be a range of fun tennis activities at the venues.

The National Eisteddfod and Anglesey Show are not free events, and visitors are asked to check local details.

Peter Drew, chief executive of Tennis Wales, said: “Great Britain’s Davis Cup win was a fantastic achievement, and the Trophy Tour is a great way to thank the supporters, volunteers, players and club officials who are the backbone of British tennis.

“It’s tremendous to have the Trophy in Wales for five days and for it to go on display around the country.

“We have seen substantial growth in tennis participation in Wales in recent years, and I am sure the Davis Cup victory and the Trophy tour will inspire even more people to get involved.”

Leon Smith, Davis Cup Captain, said: “Winning the Davis Cup was an incredible moment for me and all the team. Lifting the Trophy on the court in Ghent was an amazing feeling and I’m eager to ensure a lasting legacy following this historic achievement.

“Taking the Trophy across the country and being able to share this momentous achievement with the nation is an important part of this legacy. I can’t wait to see everyone’s reaction when they see the Davis Cup and sharing a bit of that passion we had on court will hopefully encourage others to get involved and choose tennis as part of their everyday lives”.

 To find out further information about the Davis Cup Legacy visit: www.lta.org.uk/daviscuplegacy

-----------------------------------------------------------------------------------------

Mae Cwpan Davis gan BNP Paribas yn dod i Gymru’r mis nesa fel rhan o Daith Genedlaethol y Tlws o amgylch Prydain.

Bydd y Tlws enwog yn ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni, Sioe Môn, a chlybiau tennis yn Rhiwbeina, Llanelli a Rhuthun.

Yn dilyn buddugoliaeth hanesyddol Tîm Prydain yn erbyn Gwlad Belg yn rownd derfynol Cwpan Davis 2015, pan gododd  Prydain y Tlws am y tro cyntaf ers 79 o flynyddoedd, roedd yr LTA (Lawn Tennis Association) am ddathlu’r digwyddiad hanesyddol hwn trwy ddod â Chwpan Davis ar daith o amgylch y wlad, i ddiolch i’r gymuned dennis, gan gynnwys chwaraewyr, hyfforddwyr, lleoliadau a gwirfoddolwyr, a gynorthwyodd y tîm ar ei siwrnai anhygoel.

Bwriad Taith y Tlws yw cael cyfle i ddathlu, yn ogystal ag ysbrydoli cenhedlaeth newydd i afael mewn raced a mynd ati i chwarae tennis.

Bydd Taith y Tlws yng Nghymru fel a ganlyn:

 

Awst 5:             Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni (10am – 5pm)

Awst 6:              Clwb Tennis Rhiwbeina (10am – 1pm);

Awst 7:              Clwb Tennis Llanelli  (2pm – 5pm);

Awst 9:            Sioe Môn (10am – 5pm);

Awst 10:          Clwb Tennis Rhuthun (5 - 8pm).

 Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle prin i bobl gael gweld a chael tynnu’u llun gyda thlws trawiadol Cwpan Davis.  Yn ogystal, cynhelir amrywiaeth o weithgareddau tennis hwyliog yn y lleoliadau dan sylw.

 Nid yw’r Eisteddfod Genedlaethol a Sioe Môn yn ddigwyddiadau rhad ac am ddim, ac annogir ymwelwyr i ofyn am fanylion lleol.

 Meddai Peter Drew, prif weithredwr Tennis Cymru:  “Roedd buddugoliaeth Prydain yng Nghwpan Davis yn gamp aruthrol, ac mae Taith y Tlws yn ffordd wych o ddiolch i gefnogwyr, gwirfoddolwyr, chwaraewyr a swyddogion clybiau, sef asgwrn cefn tennis ym Mhrydain.

“Mae’n fendigedig ein bod yn cael y Tlws yma yng Nghymru am bum diwrnod, a’i fod yn cael ei arddangos o amgylch y wlad.

“Rydym wedi gweld twf sylweddol yn y nifer sy’n chwarae tennis yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, a dwi’n siŵr y bydd y fuddugoliaeth yng Nghwpan Davis a Thaith y Tlws yn ysbrydoli hyd yn oed mwy o bobl i gymryd rhan.”

Meddai Leon Smith, Capten y tîm Cwpan Davis:  “Roedd ennill Cwpan Davis yn foment anhygoel i mi a’r tîm cyfan.  Roedd codi’r Tlws ar y cwrt yn Ghent yn deimlad gwych, a dwi’n awyddus i sicrhau bod yr etifeddiaeth yn parhau yn dilyn y llwyddiant hanesyddol hwn.

“Mae mynd â’r Tlws o amgylch y wlad a chael rhannu’r llwyddiant nodedig hwn gyda’r genedl yn rhan bwysig o’r etifeddiaeth honno.  Alla’ i ddim aros i weld ymateb pawb pan welan nhw Gwpan Davis, a dwi’n gobeithio y bydd rhannu ychydig o’r angerdd oedd gennym ar y cwrt yn annog eraill i gymryd rhan, a dewis tennis fel rhan o’u bywydau bob dydd.”

I gael gwybod mwy am ymweliad Treftadaeth Cwpan Davies ewch i: www.lta.org.uk/daviscuplegacy

 
 

WALES | TENNIS

Tennis Wales Office
Francis House
No 2 Drake Walk
Waterfront 2000, Cardiff CF10 4AN
029 20463335
tenniswales@tenniswales.org.uk