Welsh players enjoy success at National Learning Disability Tennis Championships / Llwyddiant i chwaraewyr o Gymru mewn Pencampwriaeth Tennis Anabledd Dysgu Genedlaethol

Wednesday, November 09, 2016

Players from Wales were on good form at the Tennis Foundation’s National Learning Disability Tennis Championships, held in partnership with Special Olympic Great Britain, at Wrexham Tennis Centre.

Welsh successes included:

  • Christopher Burke (Coedpoeth, Wrexham) – Gold in men’s div 14 singles;
  • Stephen Davies  (Bersham, Wrexham) – Gold in men’s div 5 singles, Gold in mixed doubles div 1 with partner Laura Campbell;
  • Damon Hughes (Bersham, Wrexham) – Gold in men’s div 7 doubles with partner Mathew Wreglesworth;
  • Joshua Kerr (Ammanford) – Gold in men’s Div 1 doubles with partner Shain Lewis;
  • Shain Lewis (Builth Wells) – Silver in div 1 men’s singles, Gold in men’s div 1 doubles with partner Joshua Kerr.

Other Welsh players who took part were: James Stidolph (Coedpoeth, Wrexham), Sally Bourne (Cardiff), and Helen Hughes (Bersham, Wrexham).

Peter Drew, chief executive of Tennis Wales, said:  “Tennis is a sport for everyone, and the National Learning Disability Championships are a real inspiration.

“The Wrexham Tennis Centre is a superb venue for major events such as this, and it was a bonus that our own players from Wales performed so well.

“There were some very exciting matches, too, including the men’s division 1 singles final, which saw our own Shain Lewis narrowly losing to Special Olympics World Summer Games Gold medallist Oliver Beadle.”

----------------------

Roedd chwaraewyr o Gymru ar eu gorau ym Mhencampwriaeth Tennis Anabledd Dysgu Genedlaethol y Sefydliad Tennis, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Gemau Olympaidd Arbennig Prydain, yng Nghanolfan Tennis Wrecsam.

 

Roedd llwyddiannau Cymru’n cynnwys:

  • Christopher Burke (Coedpoeth, Wrecsam) – Aur yn senglau’r dynion, adran 14;
  • Stephen Davies  (Y Bers, Wrecsam) – Aur yn senglau’r dynion, adran 5;  Aur yn  y dyblau cymysg, adran 1, gyda’i bartner Laura Campbell;
  • Damon Hughes (Y Bers, Wrecsam) – Aur yn nyblau’r dynion,  adran 7 gyda’i bartner Mathew Wreglesworth;
  • Joshua Kerr (Rhydaman) – Aur yn nyblau’r dynion,  adran 1, gyda’i bartner Shain Lewis;
  • Shain Lewis (Llanfair ym Muallt) – Arian yn senglau’r dynion,  adran 1; Aur yn nyblau’r dynion,  adran 1, gyda’i bartner Joshua Kerr.

 

Roedd chwaraewyr eraill o Gymru a gymerodd ran yn cynnwys: James Stidolph (Coedpoeth, Wrecsam), Sally Bourne (Caerdydd), a Helen Hughes (Y Bers, Wrecsam).

 

Meddai Peter Drew, prif weithredwr Tennis Cymru:  “Mae tennis yn gêm i bawb, ac mae’r  Bencampwriaeth Anabledd Dysgu Genedlaethol yn ysbrydoliaeth go iawn.

 

“Mae Canolfan Tennis Wrecsam yn lleoliad gwych ar gyfer digwyddiadau mawr fel hyn, ac roedd yn fonws bod ein chwaraewyr ni o Gymru wedi perfformio cystal.

 

“Cafwyd rhai gornestau cyffrous iawn hefyd, gan gynnwys rownd olaf senglau’r dynion, adran 1, pan gollodd Shain Lewis o Gymru o drwch blewyn i Oliver Beadle, a gipiodd Fedal Aur yn Nhwrnamaint Byd-eang Gemau Olympaidd Arbennig yr Haf.”

 
 

WALES | TENNIS

Tennis Wales Office
Francis House
No 2 Drake Walk
Waterfront 2000, Cardiff CF10 4AN
029 20463335
tenniswales@tenniswales.org.uk